Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod nifer o aelodau o 30 Park Place wedi sicrhau penodiadau i Banel Cyfreithwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026–2031.

Penodiadau

Christian Howells – wedi’i ailbenodi i Banel Cwnsleriaid Iau A

Nia Gowman – wedi’i phenodi i Banel Cwnsleriaid Iau A

Laura Shepherd – wedi’i phenodi i Banel Cwnsleriaid Iau B

Lewis Harrison – wedi’i benodi i Banel Cwnsleriaid Iau B

Y Broses a’r Paneli

Mae’r Panel wedi’i benodi yn dilyn cystadleuaeth recriwtio a gyhoeddwyd, ac mae’n cynnwys cyfanswm o 36 o Gwnslerwyr. Mae tri phanel wedi’u penodi:

•             un yn cynnwys Cwnsler y Brenin

•             ail banel yn cynnwys Cwnsleriaid Iau gyda mwy na 10 mlynedd o brofiad eiriolaeth (Panel Cwnsleriaid Iau A), ac

•             trydydd panel yn cynnwys Cwnsleriaid Iau gyda llai na 10 mlynedd o brofiad eiriolaeth (Panel Cwnsleriaid Iau B).

Mae paneli’r Cwnsleriaid Iau wedi’u rhannu’n gategorïau pwnc eang, gyda maint a chymhlethdod cyffredinol pob panel yn cael eu pennu yn ôl yr angen.

Hyd y Benodiad

Bydd penodiadau’r panel am gyfnod o bum mlynedd, yn weithredol o 1 Chwefror 2026.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Gyflawni, Juile James MS:

‘Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r penodiadau hyn. Denodd y gystadleuaeth ddiddordeb gan fwy na 85 o ymarferwyr. Rwyf wedi cael fy nghalonogi’n arbennig gan lefel y diddordeb a ddangoswyd a chan ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd.

Rwy’n gwybod y bydd y Cwnsleriaid profiadol a thalentog iawn sydd wedi llwyddo i gael eu penodi i’r Panel yn rhoi mynediad i Lywodraeth Cymru at gronfa annibynnol o arbenigedd cyfreithiol sylweddol ar draws ystod eang o weithgareddau Llywodraeth Cymru.

Mae cael y gallu profedig hwn i gyflawni gwaith eiriolaeth a chynghori yn hanfodol i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru’r cyngor cyfreithiol annibynnol gorau sydd ar gael iddi bob amser.’

Dolen i’r cyhoeddiad

https://www.llyw.cymru/eiriolwyr-dros-lywodraeth-cymru-penodi-panel-o-gwnsleriaid-2026?_gl=1*isrgll*_ga*MTI4OTA5MzIzOC4xNzY4Mjk5OTkw*_ga_L1471V4N02*czE3NjgyOTk5ODkkbzEkZzEkdDE3NjgzMDAwMTgkajMxJGwwJGgw

Authors

Christian Howells

Call 2007

Nia Gowman

Call 2014

Laura Shepherd

Call 2016

Lewis Harrison

Call 2019